Rhif y ddeiseb: P-06-1366

 

Teitl y ddeiseb: Adfer y cyllid ar gyfer gwasanaethau Bysiau Cwm Taf 351 (Dinbych-y-pysgod i Bentywyn) a 352 (Dinbych-y-pysgod i Gilgeti).

 

Geiriad y ddeiseb: Mae Bysiau Cwm Taf wedi rhedeg y gwasanaethau 351 a 352 ers mis Mehefin 2016. Maent wedi cael eu cefnogi gan gyllid Llywodraeth Cymru i helpu gyda diffygion ariannol.  Yn anffodus, mae’r cyllid hwn nawr yn cael ei dynnu yn ôl, sy’n golygu bod y gwasanaethau yn anghynaliadwy yn ariannol. Ar ben hynny, gall bws dau lawr to agored, gan weithredwr bysiau cenedlaethol mawr, weithredu rhwng Dinbych-y-pysgod a Saundersfoot ar sail fasnachol bob dydd rhwng y Pasg a diwedd yr haf, sy’n effeithio’n uniongyrchol ar y busnes teuluol bach lleol.

 

 


1.        Y cefndir

Er bod gwasanaethau bysiau lleol wedi’u dadreoleiddio, mae'r rhan fwyaf o'r pwerau statudol a'r cyfrifoldebau o ran cynllunio a chaffael gwasanaethau bysiau lleol yn nwylo awdurdodau lleol ar hyn o bryd.

Er bod gweithredwyr bysiau trwyddedig yn rhydd i gofrestru unrhyw wasanaeth y maent yn dymuno ei weithredu ar sail fasnachol, mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd o dan adran 63(1) o Ddeddf Trafnidiaeth 1985 i sicrhau bod gwasanaethau ar gael i fodloni gofynion trafnidiaeth gyhoeddus na fyddent fel arall yn cael eu bodloni drwy'r farchnad fasnachol (h.y. gwasanaethau sy’n angenrheidiol yn gymdeithasol). Mae adran 63(5) yn galluogi awdurdod lleol i ymrwymo i gontract i dalu cymhorthdal am wasanaethau pe na bai’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu o gwbl fel arall, neu’n cael ei ddarparu i safon benodol.

Ariannu bysiau

Mae Llywodraeth Cymru fel arfer wedi darparu cefnogaeth i’r diwydiant bysiau drwy nifer o ffrydiau ariannu, gan gynnwys ei Chynllun Teithio Rhatach ar Fws a'r Grant Cynnal Gwasanaethau Bysiau.

Gweinyddir y Grant Cynnal Gwasanaethau Bysiau gan awdurdodau lleol ac fe’i rhennir yn ddau fecanwaith ariannu. Gall gweithredwyr bysiau hawlio cyfraniad tuag at eu costau gweithredu mewnol, a elwir yn Grant Cymorth Cilomedrau Byw, sy’n caniatáu i weithredwyr cymwys hawlio swm am bob cilomedr “byw” (h.y. am ddarparu gwasanaeth bws yn hytrach nac, er enghraifft, am ddychwelyd i ddepo). Mae hyn yn cyfrif am tua dwy ran o dair o’r £25 miliwn a ddyrannwyd i’r Grant Cynnal Gwasanaethau Bysiau yn flynyddol ers 2013-14.

Caiff gweddill y grant ei ddefnyddio gan awdurdodau lleol, i gaffael gwasanaethau sy’n angenrheidiol yn gymdeithasol. Mae awdurdodau lleol hefyd yn gallu defnyddio cyllid o ffynonellau eraill, gan gynnwys eu Grant Cynnal Refeniw, ar gyfer gwasanaethau bws.

Y pandemig Covid-19 a chymorth brys

Cafodd y pandemig effaith anferth ar niferoedd y teithwyr - mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif y bu gostyngiad o 95 y cant yn y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus yn nyddiau cynnar y pandemig, o'i gymharu â'r defnydd yn yr un cyfnod y flwyddyn flaenorol.

Felly, darparodd Llywodraeth Cymru gymorth ariannol ychwanegol i’r diwydiant bysiau. I ddechrau, yr enw ar y cyllid brys hwn oedd y Gronfa Caledi Bysiau ac yna daeth i gael ei alw’n Gynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau (BES) o fis Gorffennaf 2020. Arhosodd y Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau ar waith ar ryw ffurf neu’i gilydd rhwng Gorffennaf 2020 a Gorffennaf 2023. Fe ddywed papur cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru fis Ionawr 2023 ar gyfer y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith (CCEI) bod dros £150 miliwn wedi’i ddyrannu ar gyfer cefnogaeth frys i fysiau rhwng 2020-21 a 2022-23.

Y Gronfa Bontio ar gyfer Bysiau

Mae’r Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau (BES) bellach wedi’i ddisodli gan y Gronfa Bontio ar gyfer Bysiau 2023-24.

I ddechrau, roedd cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24 yn cynnwys dyraniad o £28 miliwn ar gyfer 2023-24 ar gyfer y Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau (BES) (gweler papur y gyllideb ddrafft uchod). Fodd bynnag, ar 10 Chwefror, nododd Llywodraeth Cymru fod y cyllid hwn yn cael ei dynnu'n ôl yn dilyn cyfnod pontio o dri mis. Mewn tystiolaeth i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ar 1 Mawrth esboniodd Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, fod hyn oherwydd pwysau ehangach o fewn y gyllideb Newid Hinsawdd, yn enwedig ar y rheilffyrdd.

Ar 23 Mai gwnaeth y Dirprwy Weinidog ddatganiad pellach a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau bysiau.  Dywedodd eu bod “bron â dod o hyd i ateb a fydd yn ein galluogi i sicrhau bod cyllid ychwanegol ar gael i ddiogelu cymaint o'r rhwydwaith ag y gallwn ni am weddill y flwyddyn ariannol hon”. Fodd bynnag, dywedodd mai’r “her” nawr yw dylunio rhwydwaith “a all wasanaethu teithwyr orau yn yr amser sydd ar gael i ni i gynllunio, ac o fewn y cyllid sydd ar gael i ni.” 

Ym mis Mehefin, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi datganiad ar y cyd â llywodraeth leol a gweithredwyr bysiau a oedd yn cyhoeddi £46 miliwn i gefnogi diwedd y Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau (BES) ac y byddai y Gronfa Bontio ar gyfer Bysiau newydd yn ei disodli. Roedd y datganiad yn nodi hefyd, “byddwn yn parhau i weithio gyda’n gilydd i ddatblygu model ariannu cynaliadwy tymor hwy sy’n pontio’r bwlch i fasnachfreinio.”

Diwygio bysiau

Mae’r cyfeiriad at y symud at fasnachfreinio uchod yn adlewyrchu cynllun Llywodraeth Cymru i gyflwyno Bil Gwasanaethau Bysiau newydd. Yn wahanol i’r Bil blaenorol, a dynnwyd yn ôl yn 2020, a oedd yn cynnwys masnachfreinio fel un o nifer o opsiynau ar gyfer awdurdodau lleol, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig disodli’r model bysiau presennol sydd wedi’i ddadreoleiddio â system orfodol o fasnachfreinio ar gyfer Cymru gyfan, gyda Gweinidogion Cymru fel yr awdurdod masnachfreinio. Disgwylir y caiff y Bil ei gyflwyno yng nghyfnod y Senedd hon (h.y. 2023-24).

Ceir rhagor o fanylion am y cynlluniau hyn ym Mhapur Gwyn  Llywodraeth Cymru yn 2022, sef Un rhwydwaith, un amserlen, un tocyn: cynllunio bysiau fel gwasanaeth cyhoeddus i Gymru.Ceir rhagor o fanylion am y Papur Gwyn yn yr erthygl hon gan Ymchwil y Senedd ym mis Hydref 2022.

Hefyd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei dogfen Bws Cymru: cysylltu pobl â lleoedd.

2.     Camau gan Lywodraeth Cymru

Yn ei lythyr at y Cadeirydd, dyddiedig 19 Hydref, mae’r Dirprwy Weinidog yn tynnu sylw at y gefnogaeth frys a ddarparwyd i gefnogi gwasanaethau bysiau. Mae’n mynd ymlaen i ddweud y canlynol:

Rwyf wedi gofyn i Trafnidiaeth Cymru weithio’n agos gydag awdurdodau lleol…i nodi a blaenoriaethu llwybrau bysiau ar gyfer cymorth parhaus, a bydd hyn yn cynnwys edrych yn ofalus ar y ddau lwybr hyn.

Mae’r Dirprwy Weinidog yn dweud y bydd y gwaith hwn yn helpu i baratoi cynlluniau manwl ar gyfer gwasanaethau ym mhob rhanbarth o Gymru i gynorthwyo’r pontio i’r system fasnachfraint newydd sydd i’w chyflwyno.

3.     Camau gan Senedd Cymru

Mae nifer o gwestiynau ysgrifenedig ar gyllid brys ar gyfer gwasanaethau bws wedi'u cyflwyno.

Cafodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith dystiolaeth ar 11 Mai gan awdurdodau lleol Cymru a chynrychiolwyr o’r diwydiant bysiau ar gynaliadwyedd gwasanaethau bysiau yn dilyn cyhoeddiad y Dirprwy Weinidog (gweler yr adran o’r papur briffio hwn ar y cefndir). Roedd y dystiolaeth hon yn pwysleisio maint yr her o ran ymateb i’r gostyngiadau cyllid, ond roedd hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod trafodaethau’n parhau gyda Llywodraeth Cymru.

Yn dilyn hynny, ysgrifennodd y Pwyllgor at y Dirprwy Weinidog. Yn ei ymateb, mae’r Dirprwy Weinidog yn rhoi rhagor o fanylion am y Gronfa Bontio ar gyfer Bysiau ac mae’n nodi:

Defnyddir y Gronfa Bontio ar gyfer Bysiau yn fecanwaith ychwanegol i gefnogi gwaith y timau rhanbarthol ac i helpu'r diwydiant i symud o gyllid brys i wasanaethau a weithredir yn lleol ar sail tendr o fis Ebrill 2024. Yn y cyfamser, mae fy swyddogion hefyd yn adolygu'r mecanweithiau presennol ar gyfer cyllid grant fel y Grant Cynnal Gwasanaethau Bysiau a ffrydiau cyllid eraill i ddarparu pecyn cymorth mwy sefydlog ac effeithiol ar gyfer y dyfodol.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.